bbc.co.uk
Home
Explore the BBC

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Y Gaer Fechan Olaf

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf

Newyddion

Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



BBC Homepage

Cymru'r Byd
»Canrif O Brifwyl
1900 - 1913
1914 - 1937
1938 - 1955
1956 - 1966
1967 - 1979
1980 - 1999
Radio a Teledu
Ble ar y We

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb

'Roedd yn rhaid diwygio Cymru, ac 'roedd yn rhaid diwygio'r Eisteddfod hefyd. Ym 1919 bu sôn mawr am ddiwygio yn Eisteddfod Corwen ac ym 1920 sefydlwyd Pwyllgor Diwygio yn Y Barri a chyflwynwyd penderfyniadau'r Pwyllgor yng Nghaernarfon ym 1921. 'Roedd sefydlu Corff Llywodraethol, a hwnnw'n gyfuniad o Gymdeithas yr Eisteddfod a Chymdeithas yr Orsedd, yn ogystal â sefydliadau eraill, yn un o'r prif argymhellion.

Er bod yna elfen gryf o geisio anghofio am y Rhyfel 'roedd yna barch o hyd at yr un a oedd wedi ennill y Rhyfel. 'Roedd Lloyd George yn arwr gan lawer, er iddo hollti'r Blaid Ryddrydol. Dadorchuddiwyd cofeb iddo ar y Maes yng Nghaernarfon yn ystod Eisteddfod y dref gan Brif Weinidog Awstralia, Billy Hughes.

Yn y cyfnod hwn bu ymgecru mawr rhwng hen gyheiliaid yr Orsedd a'r  ysgolheigion newydd. Yn Eisteddfod Caernarfon, enillodd ysgolhaig ifanc o'r enw Griffith John Williams ar draethawd ar Iolo Morganwg. Profodd mai twyllwr oedd Iolo er bod pobl fel W. Llywelyn Williams yn ceisio amddiffyn Iolo. Gellir gweld y ddadl hona fel enghraifft o geisio cael gwared â gwerthoedd a syniadau'r cyfnod cyn y Rhyfel.

ymlaen...

 
Mynegwe
Radio a Teledu

 
 

19141915191619171918191919201921192219231924192519261927
1928192919301931193219331934193519361937
Gwrthryfel yr Ifanc

Wedi ei fuddugoliaeth gyda 'Mab y Bwthyn' siom a gafodd Cynan pan gyfeiriodd eto at y Rhyfel ac at fethiant cyn-filwr i ailganfod ei ffydd yn ei bryddest ' Y Tannau Coll' yn Eisteddfod Rhydaman ym 1922. 'Roedd y beirniaid wedi syrffedu ar y sôn am ryfel, ac ni chafodd ei goroni. Enghraifft arall o wrthryfel yr ifanc oedd pryddest Prosser Rhys yn Eisteddfod Pont-y-p^wl ym 1924 gyda'i sôn am ryw rhwng dau ddyn yn ei bryddest 'Atgof'.

Un arall o'r gwrthryfelwyr ifanc oeddd Caradog Prichard, prifardd coronog deirgwaith yn olynol 1927 - 29, ond gwallgofrwydd yn hytrach nag anlladrwydd oedd thema fawr ei bryddestau. Yn ei bryddest 'Penyd' a enilliodd Goron Eisteddfod Treorci ym 1928 fe gyfeiriodd yn ôl at y profiad dwys o weld ei fam yn mynd yn wallgof.

Yn Nhreorci 'roedd Gwenallt, un arall o'r beirdd newydd a oedd yn codi, hefyd yn adlewyrchu'r gwrthryfel yn erbyn yr hen safonau a'r hen ragrith. Yn ei awdl 'Y Sant' fe gyfeiriodd at y nwydau rhywiol. Treiddiodd i mewn i feddwl rhywiol-ganolog dyn, ond 'roedd y beirniaid wedi cael digon ac o'r herwydd fe wrthodwyd ei gadeirio o.

Nid y beirdd oedd yr unig rai i wrthryfela. Rhan o'r broses o amddiffyn Cymru rhag gorthrwm Prydeindod oedd ffurfio plaid newydd. Ysbrydolwyd sylfaenwyr y blaid newydd gan safiad y gwrthryfelwyr Gwyddelig adeg Gwrthryfel y Pasg, 1916.

ymlaen...



About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Trending Now