 |  | Dydd Dychwel yr Haul
Beth bynnag am hynny, rhoddodd S4C Gymru yn ôl ar fap y byd. 'Roedd y sianel wedi dangos y gallai gwlad fechan ymateb i her y newydd, ac i'r chwyldro technolegol byd-eang. Yn oes y teledu lloeren a'r chwyldro digidol, gallwn bellach weld Cymru a'r Eisteddfod drwy'r dullau aml-gyfryngol diweddaraf. Dathlodd D. J. Pritchard y wyrth dechnolegol newydd yn y gerdd 'Lloeren' yn y 'Dilyniant o Gerddi' a enillodd iddo Goron Eisteddfod Bro Dinefwr ym 1996.
'Doedd buddugoliaeth ysgubol y Blaid Lafur Newydd yn Etholiad Cyffredinol 1997 yn ddim llai na chwyldro ychwaith, yn enwedig ar ôl i'r Torïaid lywodraethu am genhedlaeth gyfan.
'Roedd ail Refferendwm ar ddatganoli i fod, i Gymru ac i'r Alban. A fyddai ugain mlynedd wedi gwneud unrhyw wahaniaeth, yn enwedig ar ôl canrif o ymgyrchu am hunan-lywodraeth?
A rwan fod Cymru wedi cael rhyw fesur ar hunan-lywodraeth, beth fydd swyddogaeth yr Eisteddfod, senedd symudol y Cymry, yn y dyfodol? Ydi swyddogaeth wleidyddol yr Eisteddfod wedi dod i ben? Ai noddi'r celfyddydau yn unig a wnaiff hi o hyn ymlaen?
Ond tybed na fydd gynnon ni ddwy senedd o hyn ymlaen, un yn symudol a'r llall yn sefydlog?
Ac mae'n sicr y bydd drych yr Eisteddfod yn adlewyrchu hanes Cymru a'r byd yn y ganrif nesaf hefyd, ac yn ein rhybuddio rhag rhai erchyllterau. Ond a allwn ni rwan edrych ymlaen yn hyderus at wawr canrif arall, a mileniwm arall, gydag Angharad Tomos, Prif Lenor un o 'steddfodau ola'r ganrif, Y Bala ym 1997? Wawr Ysblennydd... | | 

|
Wawr Ysblennydd
'Roedd hi'n wawr ysblennydd, yn wawr na freuddwydiais erioed mo'i thebyg, yn wawr mwy bendigedig na feiddiais ei dychmygu, yn wawr na fyddai darfod arni'.
Mae'r oes newydd ar wawrio, a honno'n oes ddigidol: teledu digidol, clociau digidol, amser digidol, ond amser ydi amser, ac ni all dim ei gyflymu na'i arafu. Amser fel rhywbeth pendant, sefydlog, ond sydd yn gallu newid yn ôl yr amgylchiad, a geir yn y casgliad 'Rhyddid' a enillodd Goron Eisteddfod Bro Ogwr ym 1998 i Emyr Lewis.
Bellach mae gan y beirdd gân newydd yn eu calonnau, a hyder newydd yn eu gwaed. A 'dydi'r 'Steddfod ddim wedi cael ei chyfyngu i Gymru yn unig. Gyda'r sgrin bellach yn bentre' byd-eang, un o straeon mawr y 'Steddfod a ddaeth â sylw rhyngwladol i S4C pan enwebwyd y ffilm Hedd Wyn am Oscar ym 1994. Ac mae rhoi o artistiaid mwyaf y byd, pobol fel Bryn Terfel, wedi cychwyn eu gyrfa ar lwyfan y Genedlaethol.
Bydd gynnon ni lai lais hyglyw, cry' yn y 'Senedd' newydd. Mi fydd problemau o hyd, a brwydrau, ond ar ôl canrif o ymgyrchu a methu, o golli ac ennill, a feiddiwn ni edrych ymlaen yn hyderus at y ganrif newydd gyda bardd gwrthodedig 1979, T. James Jones?
Can gwanwyn eto, a bydd yr holl golledion dan gloeon hen glai hanes, ynghyd â'n cywilydd. Cenedl arall a geiriau newydd a gân gerdd i ddydd dychwel yr haul. |
|